SL(6)601 – Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy'n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud at ddibenion peilota, ac maent yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol peilot penodol yng Nghymru i ddatblygu a chynnal cronfa ddata o blant a allai fod yn colli addysg, sef y gronfa ddata plant sy’n colli addysg (PCA).
Rhoddir dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol a chontractwyr gwasanaethau meddygol cyffredinol i rannu gwybodaeth sylfaenol am blant sydd wedi’u cofrestru â hwy, â’r awdurdod lleol lle mae’r plentyn yn preswylio fel arfer, at ddibenion sefydlu’r gronfa ddata PCA. Yn ystod y cynllun peilot, bydd byrddau iechyd lleol yn rhannu'r wybodaeth hon unwaith. Nid yw'n ofynnol i fyrddau iechyd lleol ddarparu diweddariadau pellach ar ôl rhannu'r set ddata gychwynnol.
Gweithdrefn
Cadarnhaol drafft.
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol;
Yn y rhaglith, nid yw’n glir a ddylai’r pwerau galluogi hefyd ddyfynnu “adran 66(1)” o Ddeddf Plant 2004, gan mai dim ond rhai o’r awdurdodau lleol yng Nghymru sydd wedi’u cynnwys yn y rhestr o awdurdodau lleol peilot yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn (er enghraifft, adran 66(1)(b) – darpariaethau gwahanol ar gyfer achosion neu ardaloedd gwahanol).
2. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol;
Yn y prif nodynnau ar frig tudalennau 1 a 3, mae gwahaniaeth o ran manylion yr adran a ddyfynnir o Ddeddf Plant 2004. Ar frig tudalen 1, mae cyfeiriad at “adran 66(3)”, ond ar frig tudalen 3, mae cyfeiriad at adran 66” o'r Ddeddf honno. Yn ogystal, mae’r manylion a nodir yn ail baragraff y rhaglith hefyd yn wahanol, gan fod cyfeiriad at “adran 66(3) o Ddeddf Plant 2004” a “pharagraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006”. Dylai'r cyfeiriadau at y ddeddfwriaeth a ddyfynnir yn y ddau set o brif nodynnau fod yn gyson â'i gilydd ac yn gyson â'r hyn a ddyfynnir yn yr ail baragraff yn y rhaglith, sy'n nodi bod yr amod o ran ei gwneud yn ofynnol gosod drafft o'r Rheoliadau wedi'i fodloni. Ymddengys na ddylid cynnwys y manylion ynghylch “[p]aragraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006” yn y rhaglith, ond yn hytrach yn nhroednodyn (3) ar dudalen 3, gydag esboniad ynghylch y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn ei dilyn, gan gynnwys y ffaith y dylid dehongli cyfeiriadau at Ddau Dŷ’r Senedd yn Neddf Plant 2004 fel cyfeiriadau at y Senedd.
3. Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol;
Yn rheoliad 4, mae’r term “preswylio fel arfer” wedi’i ddiffinio ar gyfer y rheoliad hwnnw, a rhoddir yr un ystyr iddo yn rheoliad 2(2) a (3) o Reoliadau'r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009. Fodd bynnag, defnyddir y term “preswylio fel arfer” yn narpariaethau eraill y Rheoliadau hyn hefyd, er nad yw wedi’i ddiffinio. Yn y testun Cymraeg, golyga hyn fod yr un term wedi’i ddefnyddio ar gyfer y term diffiniedig “usually resident” yn rheoliad 4 ac “ordinarily resident” yn y rheoliadau eraill – sef y term “preswylio fel arfer”. Gallai hyn arwain at broblemau mewn deddfwriaeth yn y dyfodol, pe bai’r ddau derm dan sylw yn cael eu defnyddio o fewn yr un ddarpariaeth mewn offeryn, gan na fyddai unrhyw ffordd o wahaniaethu rhyngddynt, ac unrhyw wahaniaeth o ran eu hystyr, yn y testun Cymraeg.
Rhinweddau: craffu
Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
4. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae darpariaeth fachlud wedi'i chynnwys yn y Rheoliadau. Mae rheoliad 1(2) yn darparu y bydd y rheoliadau yn dod i rym ar 8 Ebrill 2025 ac yn peidio â chael effaith ar 8 Ebrill 2026.
5. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu cynllun peilot fel y gall awdurdodau lleol peilot greu cronfa ddata PCA. Bydd saith awdurdod lleol yn cymryd rhan yn y cynllun peilot. Dyma’r awdurdodau: Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir Powys a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
6. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.
Caiff y Rheoliadau eu gwneud gan ddefnyddio pwerau sydd wedi’u cynnwys yn adran 29 o Ddeddf Plant 2004. Mae adran 2 o’r Memorandwm Esboniadol, dyddiedig 11 Mawrth 2025, yn datgan bod “angen Gorchymyn Cychwyn i ddod ag adran 29 o Ddeddf Plant 2004 i rym.” Yn ôl ein dealltwriaeth ni, daeth adran 29 o Ddeddf Plant 2004 i rym ar 10 Mawrth 2025, drwy Orchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 10) (Cymru) 2025 (OS 2025/304 (Cy.60)), a wnaed ar 7 Mawrth 2025 ac a osodwyd ar 10 Mawrth 2025.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i bwyntiau 1, 2, 3 a 6.
Trafodaeth y Pwyllgor
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 24 Mawrth 2025 ac mae'n cyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd uchod.